Ysgol Llanedi

Ysgol fechan sydd â naws deuluol yw Llanedi ac mae gan yr ysgol bartneriaeth gref gyda’r gymuned. Mae’r ysgol wedi’i lleoli’n ddeniadol ar gyrion y pentref gyda golygfeydd cefn gwlad hyfryd. Mae gennym fannau chwarae sy’n ysgogi a chyffroi y tu mewn a thu allan. Mae ganddi’r fantais ychwanegol o feddu ar gae chwarae eang a maes chwarae, y ddau’n cael eu defnyddio’n gyson gydol y flwyddyn.

Dros y blynyddoedd, mae ysgol Llanedi wedi sefydlu cysylltiadau agos gyda’r gymuned ac o’r farn ddylai rhieni, yr ysgol a’r gymuned gyfagos weithio gyda’u gilydd er budd hir dymor y plant. Mae pob plentyn yn yr ysgol yn cael eu annog a’u addysgu i ddatblygu’n aelodau cyfrifol o’r gymuned lle maent yn byw, a bod ganddynt werthfawrogiad o’r rheini sydd o’i cwmpas.

Nod ein hysgol yw darparu amgylchedd hapus a diogel, lle bydd eich plentyn yn datblygu sgiliau i fod yn ddysgwyr gydol oes. Anelwn at ddarparu i bob plentyn, cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a gwahaniaethol. Bydd cynnydd eich plentyn yn cael ei asesu a’i ddatblygu gan staff brwdfrydig, gweithgar a chroesawgar sy’n ymdrechu’n barhaus i wneud eu gorau dros eich plentyn.

Miss Sian Rees (Pennaeth)